Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Mawrth 2017
Amser:
08.30 - 09.06
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Paul Davies AC Jane Hutt AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Rhoddodd Arweinydd y Tŷ wybod i'r Rheolwyr Busnes nad oedd y Prif Weinidog yn gallu bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn heddiw oherwydd mater personol, ac felly y byddai hi'n ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog yn ei le.
Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i symud y ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod o 29 Mawrth i 5 Ebrill fel y gall y Rheolwyr Busnes ddewis cynnig unwaith y bydd canlyniad y bleidlais ar gyfer Biliau Aelodau (a fydd yn digwydd ar 28 Mawrth), yn hysbys.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 22 Mawrth 2017 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas
Unedig (60 munud) - symudwyd i 29 Mawrth
Dydd Mercher 29 Mawrth 2017 -
·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30
munud) - symudwyd i 5 Ebrill
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud) - symudwyd i 5 Ebrill
Dydd Mercher 5 Ebrill 2017 –
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Benodiadau Gweinidogol: Gwrandawiadau Cyn Penodi gan Bwyllgorau'r Cynulliad (30 munud)
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Dewisodd y Pwyllgor Busnes ddau gynnig i'w trafod: y cyntaf ar 22 Mawrth, yr ail ar 5 Ebrill.
Dydd Mercher 22 Mawrth 2017 -
·
NNDM6259
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Lee Waters (Llanelli)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd.
2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn gysylltiedig â'r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi.
3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf.
4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd.
Dydd Mercher 5 Ebrill 2017 –
·
NNDM6260
Lee Waters (Llanelli)
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Hefin David (Caerffili)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn 'bedwerydd chwyldro diwydiannol'
yn cynnig heriau a chyfleoedd i economi Cymru.
2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau
ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.
3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy'n rhoi mantais
gystadleuol mewn diwydiannau twf sy'n dod i'r amlwg.
4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y diwydiannau
newydd hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy'n addasu'n
rhwydd i amgylchiadau sydd wedi newid.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth Arloesi
Cymru gyda'r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas
yr amhariad rydym yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol
o gyfleoedd mewn sectorau newydd twf uchel, lle mae gan Gymru'r
potensial i sicrhau ei bod yn dominyddu'r farchnad yn gynnar fel
rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd
newydd.
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Carchardai a Llysoedd.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at bedwar pwyllgor er mwyn iddynt graffu arno; y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon; y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 4 Mai er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 Mai 2017.
Trafododd y Rheolwyr Busnes gynigion diwygiedig ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Amserol a diwygio'r meini prawf ar gyfer Cwestiynau Brys.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y cynigion yn y papur ac i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno adroddiad drafft i'r Pwyllgor Busnes gytuno arno a'i roi gerbron y Cynulliad. Cytunwyd na fyddai unrhyw ddyraniad amser ar gyfer Cwestiynau Amserol yn cael ei gynnwys yn y Rheolau Sefydlog fel bod gan y Rheolwyr Busnes hyblygrwydd i newid yr amseru os oes angen yn nes ymlaen.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i adolygu'r drefn newydd yn nhymor yr hydref, gan gynnwys faint o amser a ddyrennir a phryd y cawsant eu trefnu.
Gofynnodd Paul Davies am eglurhad ar sefyllfa Neil McEvoy o fewn grŵp Plaid Cymru a pha effaith y byddai hyn yn ei chael ar feintiau grwpiau'r wrthblaid, gan gynnwys dyrannu lleoedd pwyllgor. Dywedodd y Llywydd y byddai'n gwerthfawrogi pe gallai'r sefyllfa gael ei gwneud yn eglur cyn gynted â phosibl.